HWB CYMUNEDOL TAJ MAHAL COMMUNITY HUB
News
Latest news about the Hub, its partners and its projects.
Our Current Opening Times are
Monday 10am - 7pm
Wednesday 10am - 7pm
Thursday 12 - 4pm
Friday 12 - 4pm
Saturday 10am - 12pm
Disgrifiad Swydd
Teitl y Swydd : Cydlynydd Digwyddiadau
Hwb Cymunedol Taj Mahal
Lleoliad: Wedi'i leoli yn Hwb Machynlleth
Cyflog: £17.5 yr awr
Oriau gwaith: 7.5 awr yr wythnos, yn hyblyg o amgylch digwyddiadau
Atebol i: Rheolwr Prosiect Camau Bach Ynghyd
Cyfrifol am: Cyfathrebu sy'n gysylltiedig â digwyddiadau a gweithgareddau
Sut i ymgeisio? Anfonwch CV a llythyr eglurhaol un dudalen erbyn hanner dydd, ddydd Llun 28 Gorffennaf
​
Bydd y rôl newydd hon yn cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yn yr Hwb, yn codi proffil Hwb Cymunedol y Taj Mahal, a bydd yn hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau yn yr Hwb trwy roi cyhoeddusrwydd i brosiectau, hyrwyddo ac ymgysylltiad.
​
Mae Camau Bach Ynghyd, prosiect newydd yn Hwb Cymunedol Taj Mahal, wedi derbyn £95,726 gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol dros gyfnod o ddwy flynedd. O 14 Gorffennaf bydd yr Hwb yn cynnig diwrnod sy'n canolbwyntio ar lesiant, bob dydd Llun o 10am – 7pm, gan roi mynediad i gymunedau Bro Ddyfi at weithgareddau, grwpiau a chefnogaeth nad ydynt ar gael yn yr ardal ar hyn o bryd.
Mewn dim ond dwy flynedd, mae'r Hwb wedi dod yn ofod cymunedol bywiog lle mae unigolion, teuluoedd, sefydliadau, grwpiau, staff a gwirfoddolwyr wedi'u meithrin i dyfu a ffynnu. Mae wedi dod yn adnabyddus am ei gynhwysiant a'i groeso cynnes, gan greu gofod hygyrch i bawb. Mae ei ethos rhannu, trwsio ac aildefnyddio yn galluogi pobl i gael cymorth heb unrhyw stigma, ac yn ei gwneud yn haws helpu eraill.
Bydd y gweithgareddau a'r grwpiau newydd yn ymateb i anghenion y mae'r gymuned wedi'u mynegi yn yr ardal, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, hwyl, rhannu, sgwrsio, dysgu, creu, cysylltu a gofalu. Bydd y rhain yn cynnwys Rhannu Ryseitiau, Cawl a Straeon, Menopôs ac Iechyd Meddwl, grwpiau Cerdded a Sgwrsio, Ysgrifennu Creadigol, Grwpiau Celf, Grŵp Galar, Sgwrs Gymraeg, Cymorth Busnesau Bach, Sgiliau Gwaith Digidol a Dosbarthiadau Coginio.
Bydd y diwrnod agor newydd yn cynnig mwy o gyfle i gael mynediad at yr Oergell Gymunedol, y Banc Babanod, a Cyfnewid Gwisgoedd Ysgol Bro Ddyfi. Bydd hefyd yn cefnogi'r Hwb i gymryd rhan mewn digwyddiadau ledled Bro Ddyfi i wneud ei wasanaethau a'i gymorth yn fwy hygyrch fyth.
Pwrpas y Swydd
Cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yn yr Hwb.
Codi proffil Hwb Cymunedol Taj Mahal Community Hub, a hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau sydd i ddigwydd yn yr Hwb trwy gyhoeddusrwydd, hyrwyddo ac ymgysylltiad gan gynnwys y wasg, a gwefan/cyfryngau cymdeithasol
.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
-
Cefnogi a hyrwyddo pob digwyddiad a gweithgaredd gan gynnwys gweithgareddau presennol a newydd
-
Cefnogi'r broses o gyflwyno pobl i ddefnyddio'r gofod y tu allan i oriau agor ar gyfer digwyddiadau cymunedol, a hefyd ar gyfer digwyddiadau preifat sy'n cynhyrchu incwm a enillir
-
Gweithio'n rhagweithiol tuag at gyflawni Strategaeth Gyfathrebu sy'n canolbwyntio ar ddweud straeon yr Hwb yn greadigol ar draws platfformau digidol a ffisegol
-
Cynnal presenoldeb priodol ac effeithiol ar-lein, chydlynu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol, gan rheoli mynediad a rolau tudalennau
-
Rhannu newyddion digwyddiadau'r Hwb yn ei gylchlythyr misol
-
Ehangu'r ddemograffeg o bobl sy'n cael mynediad i'r gwasanaethau a'r gweithgareddau y mae'r Hwb yn eu darparu
-
Cyflwyno gweithgareddau ymgysylltu yn yr ardal, rhannu gwybodaeth am yr Hwb, ei wasanaethau a'i weithgareddau
-
Cysylltu â phartneriaid i gyflawni gweithgareddau sy'n hyrwyddo defnyddio’r Hwb mewn mannau a lleoedd eraill yn yr ardal
-
Sicrhau bod data monitro a gwerthuso yn cael ei gasglu ym mhob digwyddiad a gweithgaredd,
Manyleb Person
-
Profiad o gydlynu a threfnu digwyddiadau
-
Profiad o gyfryngau digidol gan gynnwys gwefannau, mailchimp, facebook, whatsapp, instagram
-
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i gysylltu ac ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd
-
Cymhwyster proffesiynol perthnaso,l neu brofiad cyfatebol
-
Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a blaenoriaethu gwaith i gwrdd â therfynau amser.
-
Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Job Description : Event Coordinator
Hwb Cymunedol Taj Mahal Community Hub
Job Title: Event Coordinator
Employer: Hwb Cymunedol Taj Mahal Community Hub
Location: Based at Hwb Machynlleth
Salary: £17.5 per hour
Hours of work: 7.5 hours a week - flexible around events.
Responsible to: Tiny Steps Together Project Manager
Responsible for: Event and activity related communications
How to apply? Send a CV and 1 page cover letter to tajmahalhub@gmail.com by 12 noon 28th July.
​
Brief Description of Project
This new role will support events and activities to take place at the Hwb, raise the profile of Hwb Cymunedol Taj Mahal Community Hub and will promote events and activities at the Hwb through project publicity, promotion and engagement.
Tiny Steps Together, a new project at Hwb Cymunedol Taj Mahal Community Hub, will offer a new, weekly, wellbeing focused day, every Monday, from 10am – 7PM giving communities of the Bro Ddyfi access to activities, groups and support not currently available in the area.
In just two years, the Hwb has become a vibrant community space where individuals, families, organisation, groups, staff and volunteers have been nurtured to grow and thrive. Its become know for its inclusivity and warm welcome, creating an accessible space for all. Its sharing, repairing, reusing ethos allows people to access help without any stigma and makes it easier to help others.
The new activities and groups will be wide range of varying activities which the community have expressed a need for in the area, which offer opportunity, training, fun, sharing, talking, learning, creating, connecting and caring. It will include Recipe Sharing, Soup and Stories, Menopause and Mental Health, Walk and Talk groups, Creative Writing, Arts Groups, Bereavement Group, Welsh Conversation, Small Business Support, Digital Work Skills and Cooking Classes.
The new opening day will offer more opportunity to access the Community Fridge, the Baby Bank and Uniform Swap. It will also support the Hwb participating in events throughout the Bro Ddyfi to make its services and support even more accessible.
​
Job Purpose
-
To support events and activities to take place at the Hwb.
-
To raise the profile of Hwb Cymunedol Taj Mahal Community Hub and promote events and activities to take place at the Hwb through publicity, promotion and engagement including press, website/social media.
Main Duties and Responsibilities -
Support and promote all events and activities including existing and new activities,
-
Support the induction of people to use the space out of open hours for community events and also events that “hire” the space for private events which generate earned income
-
Proactively work towards delivering the Communication Strategy which focuses on telling the stories of the Hwb creatively across digital and physical platforms.
-
Maintain an appropriate and effective online presence, and coordinate social media presence, manage access and page roles.
-
Share news of Hwb events in its monthly newsletter.
-
Expand the demographic of people accessing the services and activities that the Hub provides,
-
Deliver engagement activities in the area, sharing information about the Hwb and its services and activities,
-
Connect with partners to deliver activities which promote the use of the Hwb in other spaces and places in the area,
-
Ensure monitoring and evaluation data is gathered at all Events and activities,
Person Specification: -
Experience of coordinating and arranging events.
-
Experience of digital media including websites, mailchimp, facebook, whatsapp, instagram
-
Excellent communication and interpersonal skills with the ability to connect and engage with a diverse range of audiences.
-
A relevant professional qualification or equivalent experience.
-
Ability to work under own initiative and able to prioritise work to meet deadlines.
-
Ability to communicate in Welsh